Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 6 Mehefin 2013 |
|
|||
Amser: |
10:30 - 12:00 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2013(8) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Elisabeth Jones, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Liz Jardine (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, Y Dirprwy Lywydd Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad y Cadeirydd
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1(iii) Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd ar y cofnodion.
2 Strategaeth Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
Mae Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cyfrannu at strategaeth y Cynulliad a’i nod yw darparu gwasanaethau cyfreithiol dwyieithog rhagorol i Lywyddion, y Comisiwn, pwyllgorau a phob Aelod Cynulliad, fel rhan o dîm integredig llawn o swyddogion arbenigol y Comisiwn.
Cafodd y Comisiynwyr adroddiad ar strategaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad, ar gyfer llywio trafodaeth oedd â’r nod o sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r Gwasanaethau Cyfreithiol yn awr ac yn y dyfodol. Un maes a nodwyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fel maes yr oedd angen ei gryfhau oedd darparu gwaith drafftio deddfwriaethol o ran Biliau Aelodau, a maes posibl arall i’w ystyried oedd y gallu i ymgymryd â rhagor o waith cyfreithiol masnachol.
Roedd y tîm cyfreithiol, fel rhan o strategaeth y Gyfarwyddiaeth, wedi cael hyfforddiant dros y misoedd diwethaf i wella eu gallu i roi cyngor ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol. Fodd bynnag, roedd angen arbenigedd penodol i ymgymryd â’r gwaith o ddrafftio Biliau i safon na fyddai’n creu risg annerbyniol i enw da’r Cynulliad.
Bu’r Comisiynwyr yn trafod yr opsiynau ar gyfer darparu’r gwaith o ddrafftio deddfwriaeth ar gyfer yr Aelodau, a oedd yn cynnwys is-gontractio’r gwaith i ddrafftwyr arbenigol, hyfforddi tîm y Gwasanaethau Cyfreithiol i ddarparu’r adnodd yn fewnol, a gwneud trefniant â swyddfa ddrafftio cyhoeddus arall.
Trafodwyd agweddau ar rôl y tîm cyfreithiol o ran cynorthwyo Aelodau’r Cynulliad mewn pwyllgorau hefyd, a gofynnwyd, a oedd galw am ehangu’r ddarpariaeth cyngor cyfreithiol yn fewnol i feysydd fel cyfraith cyflogaeth, a phosibilrwydd i wneud hynny?
Cytunodd y Comisiwn i is-gontractio’r gwaith o ddrafftio Biliau Aelodau i ddrafftwyr allanol arbenigol yn y tymor byr, a cheisio trefnu hyfforddiant ar gyfer y cyfreithwyr mewnol drwy’r drafftwyr allanol hynny;
Ymhellach, gofynnwyd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i:
· ymchwilio i’r posibilrwydd o drefnu rhagor o hyfforddiant drwy swyddfa ddrafftio deddfwriaeth y Llywodraeth, a cheisio darganfod a oes cwrs drafftio deddfwriaeth, a allai arwain at gymhwyster, yn bodoli yng Nghymru;
·
ymchwilio i’r posibilrwydd y
gallai swyddfa ddrafftio deddfwriaeth y Llywodraeth ddrafftio
Biliau Aelodau, ond bod hynny ar y sail nad hwn yw dewis cyntaf y
Comisiwn, a bod amheuon difrifol ynghylch a allai unrhyw drefniant
o’r fath roi sylw digonol i faterion allweddol fel
annibyniaeth/ gwrthdaro buddiannau a chyfrinachedd;
·
edrych a oes galw digonol am
wasanaethau cyfreithiol masnachol, gan gynnwys cyfraith cyflogaeth,
o fewn y Comisiwn a chan Aelodau’r Cynulliad, i gyfiawnhau,
ar sail gwerth am arian, ymestyn adnoddau’r Gyfarwyddiaeth i
ymgymryd â’r gwaith hwnnw’n fewnol;
· penderfynu a oes unrhyw alw pellach, nad yw wedi’i ateb, am wasanaethau cyfreithiol yn y Comisiwn neu ymysg Aelodau’r Cynulliad.
Cam i’w gymryd:cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr opsiynau a ystyriwyd a’r cynnydd o ran yr opsiynau hynny ar ôl chwe mis, fel bod modd gwneud penderfyniadau ar gyfer y tymor hwy.
3 Unrhyw Fusnes Arall
Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i’r Comisiwn bod y Cyfarwyddwr TGCh yn cymryd camau ar ddau fater a oedd yn achosi pryder i’r Aelodau ar hyn o bryd: i weithredu dull Rhif Adnabod Personol syml o ran cyfrineiriau Blackberry ac i ymestyn y cyfnod cadw rhagosodedig ar gyfer cysoni negeseuon e-bost i un mis. Disgwyliwyd y byddai’r newidiadau hyn wedi’u rhoi ar waith y diwrnod hwnnw. Canmolodd y Comisiwn y ffordd yr oedd yr adran TGCh wedi ymateb i broblemau ac wedi’u datrys.
Cytunodd y Prif Weithredwr i gyflwyno papur trafod i’r Comisiwn ar ddigwyddiadau cenedlaethol sydd i’w cynnal dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn galluogi’r Comisiwn i ddylanwadu ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Byddai swyddogion yn ymchwilio i’r materion a ganlyn, ac yn cyflwyno adroddiad arnynt:
· hygyrchedd dyddiaduron Aelodau’r Cynulliad, a
· materion diogelwch ac ymarferoldeb o ran y cwpanau tseina newydd yn y caffi.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Mehefin 2013